Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
3 Mai 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13341
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-5 a 6-9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Dechreuodd yr eitem am 14.22
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
NI dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.04
Gwnaeth Natasha Asghar ddatganiad am - Teyrnged i grŵp profedigaeth yng Nghasnewydd, sy’n darparu cymorth am ddim i’r rhai sy’n dioddef o alar.
5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Cysylltu'r dotiau: Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 15.06
NDM8249 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘Cysylltu'r dotiau: Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru’, a osodwyd ar 19 Rhagfyr 2022.
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ebrill 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith - Datgarboneiddio’r sector tai preifat
Dechreuodd yr eitem am 16.08
NDM8248 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Datgarboneiddio’r sector tai preifat’, a osodwyd ar 28 Chwefror 2023.
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ebrill 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Coroni
Dechreuodd yr eitem am 17.07
NDM8250 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn estyn ei dymuniadau gorau i'w Fawrhydi'r Brenin ac Ei Mawrhydi'r Frenhines Gydweddog ar ddigwyddiad eu coroni.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Cyfnod Pleidleisio
Nid oedd Cyfnod Pleidleisio
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.30
NDM8247 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Buddsoddi mewn cynnal a chadw priffyrdd: y llwybr at rwydwaith ffyrdd gwydn
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.31 cafodd y trafodion eu hatal dros dro tan 17.38.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.54
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 9 Mai 2023